Coed Goetre: ein cymuned goedwig newydd yng Nghymru!

Mae’n bleser gennym gyhoeddu ein bod ni wedi caffael ar 70 erw o dir ym Mhowys, Cymru! Mae’r tir wedi’n cyrraedd trwy haelioni ein rhoddwyr a’n cefnogwyr, a chaiff ei ddefnyddio er mwyn cyfrannu at amcanion ein helusen, sef amddiffyn a hybu ein hamgylchedd naturiol.

Mae’r tir yn cynnwys 20 erw o goedwig bresennol a 50 erw o borfa fynydd. Fe’i lleolir mewn ardal coedwig law dymherus ar ochr Gymreig y ffin rhwng Cymru a Lloegr gyda golygfeydd dros brydferthwch Fryniau  Swydd Amwythig.

Ar gam cynnar fel hwn, ein bwriad nesaf yw cael ymgynghoriad gyda’r gymuned leol ar sut y gellir defnyddio’r tir yn effeithiol er mwyn cadw cydbwysedd rhwng buddion cymunedol, atafaeliad carbon, a bioamrywiaeth.

Mae’n debyg y caiff rhai o’r tir ei ddefnyddio am blannu coed a llwyni cynhenid - rydym mewn cysylltiad ag Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed a grwpiau cadwraeth lleol am syniadau ar greu cynefin gwych i fywyd gwyllt - a rhannau eraill fel tir pori.

Rydym yn ymroddedig i sicrhau mewnbwn cymunedol ar unrhyw benderfyniad strategaethol ynglŷn â sut caiff y safle ei defnyddio. Am y tro, fe fyddwn yn gosod rhagor o lwybrau i bobl archwilio’r natur sydd ar eu stepen drws, ynghyd â meinciau newydd er mwyn mwynhau’r golygfeydd godidog. Na phoener; erys mynediadau i’r cyhoedd ar flaen ein cynlluniau.

Mae’n ecolegydd, Steve Wiltshire, yn gwybod yr ardal yn dda gan gafodd ei fagu yn Swydd Amwythig. Beth bynnag bydd ein penderfyniad am y safle, fe fydd Steve yn ein cynorthwyo i sicrhau ein bod yn gweithio gyda phartneriaid, contractwyr, a chyflenwyr lleol. Yn ddiweddar, fe ysgrifennom am ein hymrwymiad i blannu glasbrennau “lleol a chynhenid”, sydd ond yn gallu awgrymu ein bod ni’n cyflogi a phrynu’n lleol.

Ni allwn aros i ddechrau ar y gwaith! Gyda’r ardal yn un goedwig law dymherus, gallwn weld yn barod y darnau o dystiolaeth - yn y cloddiau, Barf yr Hen Ddyn, y cennau gwahanol – o’r hyn allai’r lle hwn fod, a’r hyn y bu ers talwm. Fe fyddai’n fraint arnom uno darnau’r cynefin prin naturiol hwn.

Os ydych chi’n byw’n agos ac yn dymuno cael sgwrs gyda ni, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni.

 

Llwybrau llawen,

Tîm Protect Earth


TMD

Branding & Design ⬢ Communications & Strategy ⬢ Websites & Digital

https://tmd.scot
Previous
Previous

Misconceptions about tree planting

Next
Next

Goytre Wood: our new community woodland in Wales!